 |

TGAU CERDDORIAETH – LLAWLYFR Y MYFYRIWR ar gyfer manyleb CBAC

Mae’r llawlyfr hwn yn cynnig cyngor ar sut i astudio cerddoriaeth i’r dyfnder
angenrheidiol ar gyfer arholiad TGAU cerddoriaeth CBAC, gan drafod y math o
atebion y bydd yr arholwyr yn chwilio amdanynt.

Yn y llyfr, a ysgrifennwyd gan arbenigwyr mewn arddull glir a hygyrch, mae
adran gynhwysfawr ar ddeall cerddoriaeth ynghyd â phenodau yn cynnig cyngor
ymarferol ar gyfansoddi a pherfformio.

Mae prif adran y llyfr yn edrych yn fanwl ar bob un o’r Meysydd Astudiaeth
ac yn dadansoddi nifer o weithiau cerddorol ym mhob maes. Amlinellir cyd-detun
y gweithiau, gan egluro eu prif nodweddion ac awgrymu cyfleoedd i gyfansoddi
sy’n codi yn sgîl eu hastudio. Awgrymir gwrando ychwanegol ar gyfer pob un
o’r pum Maes Astudiaeth hefyd.

Mae’r testun yn cynnwys enghreifftiau niferus o gerddoriaeth sydd yn
darlunio’r agweddau a eglurir.

Mae’r llawlyfr hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Pris £15.95 Cludiant am ddim

AR GAEL YN AWR

LLINELL GYMORTH AR GYFER ARCHEBION:
Ffôn 020 7333 1720 (GWASANAETH SAESNEG YN UNIG)
|
|
 |
|
 |
|
 |